Yn y gyfrol arloesol hon mae Richard Wyn Jones yn olrhain datblygiad syniadaethol Plaid Cymru o'i geni ym misoedd gaeaf 1924-5 hyd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn haf 1999. Trwy gyfrwng astudiaeth wreiddiol a heriol o gredoau gwleidyddol ei harweinwyr pwysicaf - Saunders Lewis, Gwynfor Evans a'r ddau Ddafydd, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley - cawn ddilyn ymdaith y Blaid o gyrion y llwyfan gwleidyddol hyd at drothwy'r Gymru ddatganoledig. Rhoddir sylw arbennig i'r datblygiadau a welwyd ym mholisiau cyfansoddiadol ac economaidd y Blaid, yn ogystal ag yn ei safbwynt tuag at yr iaith Gymraeg. Seilir y gyfrol ar drafodaeth awdurdodol ar natur cenedlaetholdeb a syniadau cenedlaetholgar, trafodaeth sy'n ein galluogi i ddeall datblygiad syniadaethol Plaid Cymru oddi mewn i gyddestun hanesyddol a rhyngwladol ehangach. Dyma lyfr sy'n bwrw goleuni newydd, dadlennol a dadleuol ar Blaid Cymru.
Auflage
Sprache
Verlagsort
Verlagsgruppe
University of Wales Press
Zielgruppe
Editions-Typ
Illustrationen
Dateigröße
ISBN-13
978-1-83772-386-7 (9781837723867)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Klassifikation
Cyflwyniad
RHAN UN - CENEDLAETHOLDEB
1 Cenedlaetholdeb, Mudiadau Cenedlaethol a Chymru
Deall cenedlaetholdeb
Mudiadau cenedlaethol
Cymru - yng nghysgod y cyntaf-anedig
RHAN DAU - CENEDLAETHOLWYR
2 Cariad Angerddol at Wareiddiad Sefydlog :
Cyfnod Saunders Lewis
Cipio'r agenda
Egwyddorion cenedlaetholdeb
Gosod seiliau
Dal gafael
Tan siafins
3 Cymod a'i Theg Orffennol Hi: Cyfnod Gwynfor Evans
Fe'm gwrthodwyd . . .?
Yr etifeddiaeth: syniadau creiddiol 'Saunders'
a 'Gwynfor'
Polisiau sylfaenol: yr etifeddiaeth a'i hesblygiad
Aros Mae
Diwedd Prydeindod
4 Mwy na Dal Ati? Cyfnod y Ddau Ddafydd
Troi i'r Chwith: diwedd y 'Drydedd Ffordd'
Radical Wales
Senedd ac Ewrop - eto
Wigley, Ceredigion a pharadocs y 1990au
Mynegai