(New ebook edition of T. Rowland Hughes's classic Welsh language novel O Law i Law)
"Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma'r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel, a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F'ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do, aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny, ond ni newidiasai'r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb, efallai, a dyfnhau'r archollion yn ei mynwes, ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed."
Wedi marw ei rieni, mae John Davies, chwarelwr canol oed, yn clirio eu ty, drwy werthu eu heiddo 'o law i law' i'w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae'n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a'i fagwraeth, ei berthynas gyda'i rieni a'i ewythr, a'r gymdeithas mae'n rhan ohoni.
Roedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu'r llyfr a'r nofelau a'i dilynodd yn lwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i'w hawdur na phrofasai'r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw'r tawelaf a'r mwynaf o'i nofelau, a'r un sy'n dwyn y mwyaf o'i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.
Auflage
Sprache
Produkt-Hinweis
Dateigröße
ISBN-13
978-1-917237-56-7 (9781917237567)
Schweitzer Klassifikation