(ebook of the The Welsh version of the novel Bronwen by Victorian novelist Beriah Gwynfe Evans)
"Twt, twt, fachgen!" atebai ei dad, "Ychydig wyt ti yn adnabod dynion. A wyt ti yn tybied y gallent fyth wrthod abwyd mor ddengar ag wyf fi wedi daflu iddynt? Annibyniaeth gweithredol
i'w gwlad - y seren fore ddisglair honno am yr hon y mae eu beirdd yn canu, a'u tywysogion yn breuddwydio, a dim ond un dyn rhyngddynt a'r mwynhad."
Beriah Gwynfe Evans (1848-1927) oedd un o Gymry llengar mwyaf gweithgar ei oes. Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau yn portreadu digwyddiadau a chyfnodau o hanes ei wlad ei hun mewn ymgais bwriadol i efelychu yn y cyd-destun Cymreig yr hyn yr oedd Walter Scott wedi'i wneud gyda hanes yr Alban yn ei nofelau hanes ef.
Bronwen, 'Chwedl Hanesyddol am Owain Glyndwr', oedd nofel gyntaf Evans. Enillodd y fersiwn Saesneg wobr yn Eisteddfod Caerdydd 1878, ac ymddangosodd y fersiwn Cymraeg sydd yn y gyfrol hon, sef addasiad yr awdur ei hun, gyda rhai ychwanegiadau, mewn cyfnodolyn yn 1880.
Dyma nofel anturus, ramantaidd ac uchelgeisiol, a dyma'r tro cyntaf i unrhyw fersiwn ohoni ymddangos ar ffurf llyfr.
Auflage
Sprache
Produkt-Hinweis
Dateigröße
ISBN-13
978-1-917237-52-9 (9781917237529)
Schweitzer Klassifikation