Dyma gyfrol sy'n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788-1855), o'i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i'w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i'r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ol blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe'i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i'w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu'n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i'w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy'n ysbrydoli.
Reihe
Auflage
Sprache
Verlagsort
Verlagsgruppe
University of Wales Press
Illustrationen
Dateigröße
ISBN-13
978-1-83772-033-0 (9781837720330)
DOI
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Klassifikation
Rhagair Golygydd y Gyfres
Lluniau
Diolchiadau
Rhagair
1 Bore Oes
2 Y Chwarelwr
3 I Lundain a Dysgu
4 Yr Actiwari
5 Yr Ymgyrchydd
6 Yr Alltud
7 Arloesi ac Anrhydeddau
8 Y Penteulu
9 Addysg a Chymwynasau
10 Yr Hybarch
11 Cefnogi a Chrefydda
12 Pen y daith ac Epilog
Nodiadau
Mynegai