Groundbreaking bilingual anthology edited by National Poet of Wales, Hanan Issa. A collection of diverse voices showcasing a range of experiences across Wales, focusing on identity, and dragons! -- Cyngor Llyfrau Cymru
Rezensionen / Stimmen
Mae Ac Rwy'n Clywed Dreigiau yn gasgliad o gerddi a olygwyd gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, lle mae prif thema pob cerdd yn ymwneud a dreigiau - thema addas o ystyried pa mor eiconig yw'r Ddraig Goch yng Nghymru, wrth gwrs. Ac mae geiriau Hanan yn cyfleu naws y gyfrol i'r dim:
"Mae Cymru'n wlad groesawgar sy'n gartref i bob math o ddreigiau - gobeithio o fewn y tudalennau hyn y gallwch chi ddod o hyd i ddraig sy'n rhuo mor ffyrnig a'ch fflam unigryw chi'ch hun."
Yn gyntaf oll, roedd y cerddi'n unigryw. Mae yna rai doniol (Fe wnaeth 'Fy Mam, yr ARWR' gan Rhiannon Oliver wneud i mi chwerthin), ac mae yna rai teimladwy (roedd 'Pry Tan' gan Eric Ngalle Charles yn gerdd bwerus dros ben), felly mae rhywbeth at ddant pawb yn y llyfr hwn. Mae Cymru'n wlad lawn amrywiaeth a diwylliant, ac mae'r llyfr hwn yn dathlu'r hyn sy'n ein gwneud ni'n unigolion; ac er bod gan bob un ohonom ddraig y tu mewn i ni, mae ein gwahaniaethau yn gwneud i ni sefyll allan. Braint oedd cael cipolwg i ddiwylliannau eraill a'u cymharu a diwylliant Cymru; er enghraifft yng ngherdd 'Draig Lung' gan Angela Hui, mae hi'n son am "D[d]au ddiwylliant hynafol. Cymru a Tsieina. Y Cymoedd a Hong Kong", a cheir cyfle hyd yn oed i ddysgu geiriau ac ymadroddion newydd (mae "Abuji" yn air am "dad-cu" yn ol y gerdd 'Mae Ymladd Tanau yn dy Waed' gan Hafsa Ajadi). Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig dysgu rhywbeth ar ol darllen.
Roedd y lluniau a ddyluniwyd gan Eric Heyman, a gafodd eu cynnwys yn y llyfr yma ac acw yn ddeniadol. Roedd ychydig o ddarluniadau a gwmpasodd dudalen gyfan, e.e. ar ddiwedd cerdd 'Y Ddraig yn fy Mhoced' gan Emma Smith-Barton, ond roedd llawer o'r lluniau yn llai eu maint, ac rwy'n teimlo eu bod nhw'n ychwanegu rhywbeth mwy i'r cerddi.
Wrth edrych ar y cyfieithiadau Cymraeg o rai o'r cerddi, mae'n dipyn o gamp i gyfleu'r un naws a neges mewn ffordd mor greadigol, ond mae'r cerddi - a'u cyfieithiadau - yn hyfryd!
Mae Hanan Issa yn dweud yn y rhagair ei bod hi am rannu barddoniaeth a "chynulleidfa newydd o bobl ifanc sydd wrth eu bodd yn darllen", ac er bod y nod hwnnw wedi'i gyflawni, dyma flodeugerdd y gall pobl o bob oedran ei mwynhau.
Auflage
Sprache
Verlagsort
Zielgruppe
Editions-Typ
Maße
Höhe: 197 mm
Breite: 130 mm
Dicke: 13 mm
Gewicht
ISBN-13
978-1-915444-74-5 (9781915444745)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Klassifikation