Dyma'r gyfrol gyntaf sydd yn ymdrin a mewnfudo rhyngwladol, cymunedau Cymru a'r Gymraeg o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol. Ers dechrau'r ganrif, cafwyd trafodaethau cynyddol am ddyfodol amrywiaeth mewn nifer o wladwriaethau, gan gynnwys Prydain a Chymru. Mae'r gyfrol hon yn mynd ati i drafod sut y mae llywodraethau ac athronwyr cyfoes wedi ymwrthod ag amlddiwylliannedd tra yn chwilio am ffyrdd newydd o uno pobl trwy iaith a diwylliant. Wrth drafod y cyd-destun damcaniaethol a pholisi, mae'r gyfrol yn tynnu ar ymchwil empeiraidd gyda mewnfudwyr, tiwtoriaid iaith a swyddogion llywodraethol Cymru, i ddatgelu safbwyntiau am integreiddio yng Nghymru ac i herio rhagdybiaethau am berthynas mewnfudwyr a'r Gymraeg. Daw cymhlethdod sefyllfa iswladwriaethol Cymru i'r brig wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan cefnogaeth dros ddwyieithrwydd, tra bod polisiau'r Wladwriaeth Brydeinig yn haeru polisi mewnfudo a dinasyddiaeth homogenaidd ac unieithog. Mae'r gyfrol yn awgrymu llwybr posibl i Gymru, felly, sef diffinio dinasyddiaeth amlethnig Gymreig a Chymraeg ei hun.
Reihe
Sprache
Verlagsort
Zielgruppe
Illustrationen
Maße
Höhe: 216 mm
Breite: 138 mm
ISBN-13
978-1-78683-536-9 (9781786835369)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Klassifikation
Mae Gwennan Higham yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Mae'n ymchwilydd ym maes mewnfudwyr rhyngwladol yn dysgu Cymraeg, ac mae ei gwaith yn rhoi ystyriaeth lawn i'r goblygiadau y gall hyn ei gael ar ddiffinio amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth Gymreig.
Rhagair
1 'Bringing people together around British values and that kind of thing': Dadlau'r tuhwnt i amlddiwylliannedd yng Nghymru
2 'Dinasyddiaeth Brydeinig - mae e'n clymu ni mewn': Adeiladu seiliau dinasyddiaeth Gymreig
3 'Dinesydd fydda i - dw i eisiau dysgu Cymraeg': Llunio darpariaeth Gymreig i fewn-fudwyr
Ol-nodyn
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai