
Pecyn Darllen Cyfres Mali
Malachy Doyle(Author)
Graffeg Bach (Publisher)
Will be published approx. on 31. March 2023
Other
Other merchandize
216 pages
978-1-80258-519-3 (ISBN)
Description
A special bargain pack of six titles in the Mali series. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Reviews / Votes
Dilynwch Mali a'i bywyd ar lan y mor. Yn addas i blant 5-7 oed, mae cyfres Mali yn edrych ar themau fel pwysigrwydd teulu a chyfeillgarwch. -- Cyhoeddwr: Graffeg Heb os nac oni bai, fy hoff beth am y gyfrol yma i blant ydy'r darluniau. Mae'r morfil fel petai ganddo wyneb dynol, llawn emosiwn, mae'r cymeriadau yn gwisgo dillad lliwgar ac mae nodweddion eu hwynebau yn gartwnaidd-gomic a llawn cymeriad. Dw i'n meddwl y byddai'r clawr yn apelio at gynulleidfa ifanc wrth iddyn nhw ddewis o'r silff lyfrau.Mae hon yn stori am ddau blentyn sy'n mynd i lawr at y traeth ar ol storm i chwilio am unrhyw beth diddorol allai fod wedi golchi i'r lan dros nos. Ond pan maen nhw'n cyrraedd, maen nhw'n gweld morfil anferth yn gorwedd ar y traeth. Wedyn cawn hanes y gymuned yn cydweithio i gadw'r morfil yn wlyb ac yn oer hyd nes y daw'r llanw i mewn yn ddiweddarach. Mae'r plant yn aros ar ddi-hun trwy'r nos, sy'n syniad deniadol iawn i blant bach, felly dw i'n tybio y bydd yn plesio'r rhai sy'n darllen y gyfrol yma. Mae Mali, y ferch fach, yn cyfansoddi can fach i gysuro'r morfil a'i gadw'n dawel hyd nes ei fod yn cael ei achub.
Fedra i ddim dweud yn iawn at ba oed na lefel darllen y mae'r llyfr yma wedi ei anelu. O bryd i'w gilydd mae'r eirfa ychydig yn ffurfiol (e.e. 'cyhyd', 'aiff'), a allai fod yn anodd neu'n ddiarth i ddarllenwyr ifanc iawn. Ond mae'r llinell storiol ei hun yn awgrymu ei fod ar gyfer plant bach. Serch hynny, mae lle i gyflwyno geirfa newydd o bob cywair i blant ifanc yn ein llyfrau, mae'n siwr, ac nid oes raid gorsymleiddio ar gyfer plant bach drwy'r amser.
Roeddwn i'n hoff iawn o naws cyffredinol y gyfrol. Mae hi'n stori, yn ei ffordd gynnil ei hunan, sy'n dysgu pwysigrwydd bod yn ofalgar o eraill, gweithio fel tim ac fel rhan o'r gymuned ac i ofalu am fyd natur. Mae'r tudalennau yn ddeniadol dros ben gyda'r darluniau arbennig o fanwl a hardd ac mae'r gwaith celf yn dod yr un mor bwysig a'r stori, wrth i'r lliw a lluniau lenwi'r dudalen gyfan.
Dyma stori hoffus am y cyfeillgarwch a'r ddealltwriaeth sy'n datblygu heb eiriau rhwng Mali a'r morfil a dw i'n siwr y bydd yn dod yn ffefryn o blith y straeon amser gwely mewn sawl cartref. -- Mererid Haf @ www.gwales.com
More details
Language
Other
Place of publication
United Kingdom
Publishing group
Graffeg Limited
Target group
Children/juvenile
Dimensions
Height: 250 mm
Width: 250 mm
Thickness: 30 mm
ISBN-13
978-1-80258-519-3 (9781802585193)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification