
Gwlad yr Addewid
Ed Thomas(Author)
Parthian Books (Publisher)
Published on 1. July 2015
Book
Paperback/Softback
140 pages
978-1-910409-00-8 (ISBN)
Description
Mae House of America yn ddrama ffrwydrol, angerddol am deulu Cymreig a'r freuddwyd Americanaidd. Pan mae'r tad yn gadael am fywyd newydd yng Nghaliffornia, a gwaith glo brig yn agor yn ymyl eu cartref, mae bywyd y teulu yn newid am byth. Mae Mam yn gwallgofi ar ol lladd cath o'r enw Brando, ac er gwaethaf protestiadau Boyo - y brawd sy'n deyrngar i'w gynefin - does dim all atal Sid a Gwenny rhag encilio i fyd ffantasiol Jack Kerouac, a'i glasur o nofel On the Road. Mae celwydd a chyfrinachau yn arwain at drasiedi'r freuddwyd anghywir yn y dre anghywir.
Reviews / Votes
Mae celwydd a chyfrinachau yn arwain at drasiedi'r freuddwyd anghywir yn y dre anghywir. "Ed Thomas yw dramodydd mwyaf cyffrous Cymru. Mae'r trawma a'r dryswch diwylliannol mae'n ei ddisgrifio, mewn modd mor ffrwydrol ac egniol, yn rhan o brofiad cyffredinol ein hamseroedd. Mae'n wefreiddiol." --The Guardian "Syfrdanol. Y ddrama fwyaf cyffrous i mi ei gweld ers amser maith." --Time Out London "Wedi ei bortreadu ar ogwydd, dyma hanes teulu diffygiol o'r Cymoedd ar ymyl gwaith glo brig sy'n prysur golli eu pwyll a'u hunan-barch trwy fewnforio breuddwydion er mwyn llenwi eu bywydau a chladdu'r gorffennol ... disentiment, trefol, eithafol o ddychmygus a thelynegol ... llwyddiant ysgubol." --The Independent "Trasiedi fodern ar gyfer cenedl anghofiedig. Gwaith meistrolgar." --The ScotsmanMore details
Language
Other
Place of publication
Cardigan
United Kingdom
Dimensions
Height: 203 mm
Width: 127 mm
ISBN-13
978-1-910409-00-8 (9781910409008)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification
Persons
Yn 1988, ysgrifennodd Ed ei ddrama gyntaf, House of America. Enillodd y ddrama sawl gwobr fel drama a ffilm (1996), yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei ddramau eraill yn cynnwys Flowers of the Dead Red Sea (1991), East From the Gantry (1993), Song From a Forgotten City (1995), Gas Station Angel (1998) a Stone City Blue (2004). Maent wedi teithio'n fyd-eang gan gynnwys Prydain, Ewrop, Awstralia a De America, i theatrau'n cynnwys The Royal Court, Donmar Warehouse a'r Tramway, Glasgow. Maent wedi eu cyfieithu i dros ddeg o ieithoedd. Ed yw sefydlydd a chyfarwyddwr artistig Fiction Factory, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar Y Gwyll / Hinterland, cyfres dditectif wedi ei chynhyrchu yn Saesneg a'r Gymraeg i S4C a'r BBC, a'i dosbarthu'n rhyngwladol gan All3Media. Dros y degawd diwethaf, mae Ed wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu dros gant ac ugain awr o ddrama mewn sawl genre, gan ddenu dros saith deg o enwebiadau a gwobrwyon yn cynnwys rhai gan BAFTA Cymru a Prix Europa. Mae ei raglenni wedi eu dosbarthu i dros wyth deg o wledydd. Mae'r rhain yn cynnwys Satellite City, Silent Village, China, A Mind to Kill, Caerdydd, Pen Talar, Y Pris, Cwmgiedd/Columbia a Gwaith/Cartref. Mae'n byw yng Nghaerdydd.