
Y Pla
Wiliam Owen Roberts(Author)
Cyhoeddiadau Barddas (Publisher)
Published on 9. November 2012
Book
Paperback/Softback
364 pages
978-1-906396-59-6 (ISBN)
Description
Ffantasi hanesyddol wedi ei lleoli yng Nghymru, y Dwyrain Agos ac Ewrop y 14G yw'r Pla, ond y mae ei hergyd yn gyfoes. Dyma gyfle o'r newydd i ystyried y nofel bwysig hon yng ngoleuni realiti yr heriau sy'n cyflwyno eu hunain i gymdeithas heddiw. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Reviews / Votes
Dyma argraffiad newydd o'r nofel a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1987 gan Annwn (cyhoeddwyd ailargraffiad yn 1992 yn ogystal). A hithau'n 25 mlynedd ers i'r nofel ei chyhoeddi gyntaf mae'n briodol iawn bod y nofel flaengar hon ar gael unwaith eto.Nofel hanesyddol yw hi, wedi ei lleoli yn Ewrop y 14G. Mae'n symud rhwng Cymru, y Dwyrain Agos a lleoliadau eraill yn Ewrop ac yn adlewyrchu hoffter yr awdur o ysgrifennu ar gynfas eang. Er bod cefndir canoloesol i'r gyfrol, eto mae'n nofel gyfoes ac yn un sy'n cwestiynu gwerthoedd a strwythur y gymdeithas fodern. Rhoddir llais i'r taeogion sy'n llafurio yn eu cwmwd Cymreig - lleisiau anghofedig llyfrau hanes mewn gwirionedd - a chawn ddilyn, yr un pryd daith Ibn al; Khatib i ddial ar frenin Ffrainc. Ond mae yna gysgod du iawn yn ar y cyfan oll... ac mae'r Pla yn lledu.
Mae'n 25 mlynedd ers cyhoeddi'r nofel hon gyntaf, ond y mae ei hergyd yr un mor berthnasol heddiw. Bydd argraffiad newydd yn symbylu trafodaeth ac yn ein cymell i edrych ar y gwaith hwn mewn cyd-destun cyfoes.
Mae'r rhagarweiniad yn cynnig cyflwyniad pwysig i'r nofel hon i gynulleidfa newydd (mae'n parhau i gael ei hastudio yn ein prifysgolion a'n colegau). -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas Rhyfedd meddwl bod gwasg ymddangosiadol adweithiol megis Cyhoeddiadau Barddas bellach yn cyhoeddi nofelau'r awdur chwyldroadol Wiliam Owen Roberts. Ond yr oedd yn hen bryd i nofel bwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif gael diwyg parchus o'r diwedd, yn hytrach na'r fersiwn gwreiddiol a gyhoeddwyd chwarter canrif yn ol ac a godai gywilydd ar unrhyw un a welai'r fersiynau Saesneg, Almaeneg, ac ati a gawsai gymaint o glod yn rhyngwladol.
Roedd hon yn nofel broffwydol mewn ffordd, oherwydd bellach yr hollt rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin, y byd Islamaidd a'r byd Gorllewinol yw problem amlycaf y byd yn grwn, felly dylai'r nofel hon gael ei darllen heddiw yn fwy nag erioed: ei darllen a'i dehongli, ei thrafod a'i gwyntyllu'n drwyadl gan feirniaid llenyddol a sylwebyddion y byd gwleidyddol.
Wrth lwc, gan nad yw'n nofel 'hawdd' na 'phoblogaidd' yn yr ystyr arferol, cynhwyswyd rhagymadrodd iddi gan neb llai na Dr Enid Jones, a'i trafododd yn ddeallus o'r blaen yn y gyfrol Y Ser yn eu Graddau a hefyd yn ei champwaith, FfugLen: Y Ddelwedd o Gymru yn y Nofel Gymraeg o Ddechrau'r Chwedegau hyd at 1990.
Camgymeriad fuasai ystyried Y Pla fel nofel hanes yn yr ystyr draddodiadol Gymreig, oherwydd y mae'n cynnig gwrthbwynt pendant iawn i'r nofelau hanes 'poblogaidd' (megis eiddo Marion Eames a'i thebyg), ac fel y dywedir ar glawr yr argraffiad newydd hwn, ' Er mai Cymru ac Ewrop y Canol Oesoedd yw'r cefndir cymdeithasol a gwleidyddol, codi rhai cwestiynau cyfoes' a wna Y Pla.
Clywir yn aml gwyno bod yr un llyfrau gosod yn cael eu hastudio gan ddisgyblion ysgol ers hanner canrif. Awgrymaf y byddai Y Pla yn destun gosod ardderchog ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch, ac yn sicr mae'n haeddu astudiaeth fanwl yn y prifysgolion. Nid oherwydd ei hideoleg yn unig, oherwydd fel y dywed Dr Enid Jones yn ei rhagymadrodd, 'Gweision da i gynnwys deallusol Y Pla yw afiaith ac egni ei dulliau'. Wrth grybwyll agweddau dadleuol y llyfr, rhaid peidio ag anghofio mai nofel ydyw wedi'r cwbwl, ac fel y dywedodd E. M. Forster am y nofel, 'Ydi, mae'n adrodd stori, wrth gwrs', gan awgrymu ei bod serch hynny'n gwneud llawer mwy na hynny hefyd. -- John Rowlands @ www.gwales.com
More details
Language
Other
Place of publication
Gwynedd
United Kingdom
Dimensions
Height: 1 mm
Width: 1 mm
ISBN-13
978-1-906396-59-6 (9781906396596)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification