
Paris
Wiliam Owen Roberts(Author)
Cyhoeddiadau Barddas (Publisher)
Published on 20. March 2013
Book
Paperback/Softback
520 pages
978-1-906396-52-7 (ISBN)
Description
The second in Wiliam Owen Roberts's trilogy. The family who fled from Petrograd have now been dispersed to two of Europe's most influential cities. Which political and personal borders will be crossed by the emigres in this novel? We follow their story between 1925 and 1933 as they try and create a new life. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Reviews / Votes
Yn ol un o gymeriadau'r nofel hon, "Rhywbeth byrhoedlog ydi pob llyfr hanas. Ymdrech dila i ddal drych o flaen wyneb cymhleth bywyd." Mae Paris yn nofel sydd wedi ei hysgrifennu ar gynfas eang, ac sy'n rhoi llais i fyrdd o gymeriadau wrth iddynt geisio ymgodymu a bywyd.Caru, colli, perthyn - dyma'r llinynnau sy'n rheoli bywydau'r emigres, ac yn gefndir i'r cyfan mae'r grymoedd gwleidyddol sydd ar gerdded. Wrth i aelodau o deulu Alyosha ailymddangos yn ei fywyd fesul un, y cwestiwn mawr yw ai dyma'r darlun roedd o'n ei chwennych? -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas Bedair blynedd yn ol, a minnau wedi fy nghaethiwo i'r gwely a dos digon annymunol o ffliw, cefais ddianc am wythnos gyfan i Rwsia ddechrau'r ugeinfed ganrif yng nghwmni Wiliam Owen Roberts a chymeriadau uchelwrol ei nofel am y chwyldro, Petrograd. Yn ystod gwanwyn oer 2013, bron nad oeddwn yn dyheu am ddos arall o'r aflwydd, er mwyn cael rheswm da i gau'r drws ar y byd ac ymgolli gyda'r un cymeriadau yn ninas Paris a mannau eraill yn Ewrop yn y dilyniant, Paris. Dyna ogoniant a thrafferth y nofel hon. Dyw hi ddim yn un i gydio ynddi am ugain munud a phicio i mewn ac allan ohoni. Mae angen cyfnod da o ddarllen er mwyn rhoi'r parch dyledus ac ymroi iddi: does dim posib ei darllen gyda hanner llygad ar y cloc neu wrth frwydro cwsg.
Ond unwaith i chi fynd i mewn i fyd Wiliam Owen Roberts, anodd iawn fydd dod ohono. Mae'r elfennau a'm swynodd i yn Petrograd i'w gweld yr un mor amlwg. Y rheini yw gallu'r awdur i dreiddio i hanfod ei gymeriadau, hyd yn oed y rhai bach di-nod, a'r ffordd y mae'n creu bydoedd cwbl gredadwy.
Braf yw cael ailgyfarfod a phrif gymeriad Petrograd, Alyosha, ond mae erbyn hyn yn byw mewn byd pur wahanol i'r hyn y'i ganwyd iddo. Fel cynifer o bobl debyg, mae wedi cyrraedd Paris ar ol dianc o Rwsia, ond heb bapurau dilys nac arian yn gefn iddyn nhw, rhyw fywyd digon tlodaidd sy'n wynebu'r bobl hyn, yn mynd o swydd i swydd ac yn gorfod edrych dros eu hysgwyddau'n barhaus: does dim sicrwydd, a chawn y teimlad bod newid sylfaenol wedi digwydd, nid yn eu bywydau nhw yn unig ond yn hanfod y gymdeithas Ewropeaidd a'r bobl sy'n cael eu taflu o un lle i'r llall.
Mae'r lleoliadau digon annymunol yn cael eu disgrifio'n gwbl fyw - dyna'r Hotel de Nantes lle mae Alyosha'n chwilio am rywle i fyw; 'hen adeilad cyfyng ... yn llawn o ogla saim drewllyd a oedd wedi suro llenni les y cyntedd yn galedwch melyn' (ydych, rydych chi'n ogleuo'r llyfr yma). Ac mae'r ddinas yn llawn cymeriadau truenus - un disgrifiad cofiadwy yw hwnnw o Rwsiad sy'n 'crwydro strydoedd Paris yn ddiamcan o dan ei bwysau, yn berwi yn ei chwerwedd wrth chwilio am ryw ystyr i'w fywyd ... roedd pobl yn son amdano fel petai'n ol-rifyn o ddyn'. Ac er bod Alyosha'n gwneud ei orau i symud ymlaen a chreu bywyd newydd, 'doedd yr un dydd yn machludo nad oedd o'n dal i fwytho tirlun ei hen fywyd y tu mewn iddo'i hun'.
Ond dyw'r cyfan ddim yn ddigalon. Mae'r nofel wedi'i rhannu'n adrannau neu benodau, gyda straeon y gwahanol gymeriadau'n cymryd rhan flaenllaw yn yr adrannau hynny. Mae un stori serch brydferth iawn yn agos i ddechrau'r llyfr, sydd bron fel nofelig a allai sefyll ar ei thraed ei hun, ac mae'r ffordd mae'r cymeriadau'n gorfod newid ac addasu i syniadau ac athroniaethau newydd yn hynod o ddifyr.
Dyma nofel ac iddi gwmpas eang iawn, ond mae'r darlun enfawr hwn hefyd yn cynnwys manylion bach a disgrifiadau sy'n gwneud y cyfan yn gredadwy ac yn gofiadwy. -- Catrin Beard @ www.gwales.com
More details
Language
Other
Place of publication
Gwynedd
United Kingdom
Dimensions
Height: 1 mm
Width: 1 mm
ISBN-13
978-1-906396-52-7 (9781906396527)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification