
Hen Ieithoedd Diflanedig
Mihangel Morgan(Author)
Cyhoeddiadau Barddas (Publisher)
Published on 24. September 2018
Book
Paperback/Softback
64 pages
978-1-911584-20-9 (ISBN)
Description
A volume of poetry by Mihangel Morgan comprising a series of twenty poems which look at various languages that face extinction. The subject of each poem is the alleged last speaker of each minority language. Through the poet's imagination, we hear the voice of the peoples facing losing their indigenous languages and their standpoint towards each disappearing language. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Reviews / Votes
Mewn cyfnod pan fo bywyd yn teimlo'n fwy brau ac ansicr nag erioed, a seiliau a gwerthoedd gwladwriaethau a llywodraethau fel pe baen nhw'n cael eu troi ben ucha'n isaf, efallai nad yw'n syndod mai testun pedwaredd gyfrol o gerddi Mihangel Morgan yw ieithoedd lleiafrifol a'u gafael bregus hwythau ar fywyd.I gyfleu ei neges, defnyddia 'leisiau' yr unigolion hynny oedd y rhai olaf i yngan geiriau'r amrywiol ieithoedd dan sylw, gan gynnwys yr Ubych a siaredid yn Nhwrci, a'r Norn, iaith Ogledd-Almaenig a siaredid ar ynysoedd Orkney a Shetland.
A chynhwysir hefyd gylch o gerddi am y Fanaweg ar ddiwedd y gyfrol, gan ddefnyddio 'lleisiau' unigol penodol. Er iddo gydnabod fod y Fanaweg, fel Cernyweg, wedi profi rhywfaint o adfywiad yn ddiweddar, mae'r bardd yn cyfiawnhau eu cynnwys yn y gyfrol gan na fu'r iaith yn un 'draddodiadol gymunedol' yr ynys ers saithdegau'r ganrif ddiwethaf. Wrth gyflwyno'r cylch o gerddi dywed mai ffrwyth dychymyg ydynt i raddau helaeth ac nad yw ei wybodaeth am yr ynys yn un fanwl iawn. Felly hefyd yn ei ragair, mae'n onest, agored wrth gyfaddef mai 'ychydig o ymchwil' a wnaeth i'r unigolion y rhoddodd lais iddynt - cyfaddefiadau dadleuol, o bosib, a allai arwain rhai i'w gyhuddo o ddiogi. Ond penderfyniad bwriadol fu hyn ar ei ran, meddai; defnyddiodd ambell fanylyn am yr unigolion hyn yn sbardun i'w ddychymyg hedfan.
Er mai trafod diflaniad ieithoedd y mae'r bardd, pwnc allai esgor ar gerddi dwys a thrymaidd, mae naws ymgomiol, anffurfiol i nifer ohonynt a thinc ac idiom y Gymraeg fyw yn gwau drwy'r cyfan. Yn wir, dywed y bardd yn ei ragair mai'r Gymraeg a'i sefyllfa hi oedd ar ei feddwl wrth lunio'r cerddi.
A'r Gymraeg ddaeth i'm meddwl yn syth wrth ddarllen 'Asgwrn y Gynnen', er ei bod yn trafod iaith leiafrifol a ddiflannodd o Fecsico. Yma, cyfleir y tyndra rhwng y 'purydd' sy'n mynnu dal gafael ar ffurfiau traddodiadol yr iaith a'r 'rhyddfrydwr' sy'n fodlon llacio fymryn ar y ffrwynau er mwyn parhad a datblygiad yr iaith. '... dyw e ddim yn dweud "cyfarfod" / Ond "cwarfod", / Ac mae'n mynnu dweud "gafrod" / Yn lle "geifr". Swnio'n gyfarwydd?
Allwn i ddim peidio a meddwl chwaith am waith hanfodol Sain Ffagan yn cofnodi amrywiol dafodieithoedd Cymru ar dap ar hyd y blynyddoedd wrth ddarllen y llinellau hyn yn y gerdd 'Ned Maddrell': 'Nid mewn ogof y sibrydodd ei gyfrinach / Eithr i glust blastig rhyw declyn o drobwll / Ac wrth un o'r newydd-ddyfodiaid, dieithryn / A gasglai hen eiriau fel cregyn traeth...'
Arhosodd pennill olaf iasol 'Tef-ffic Esens' gyda mi hefyd: 'Crwydraf o neuadd i neuadd / Drwy balas ysblennydd fy ngramadeg / Heb gwrdd a neb.'
Dwyster? Oes, yn naturiol, ond gwelwn fflachiadau o ddireidi nodweddiadol yr awdur yma a thraw hefyd, ac mae cyffyrddiad ysgafn, cyson y dylunydd Olwen Fowler yn llinyn arian sy'n ychwanegu at undod y gyfrol ac yn wrthbwynt i ambell wirionedd sy'n anghyfforddus i'w dreulio. -- Annes Glynn @ www.gwales.com
More details
Language
Other
Place of publication
Gwynedd
United Kingdom
Illustrations
1 llun du a gwyn
Dimensions
Height: 183 mm
Width: 133 mm
ISBN-13
978-1-911584-20-9 (9781911584209)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification
Content
Rhagair
Dolly Pentreath (Cernyweg)
Tef-ffic Esens (Ubych)
Ishi (Yana)
Roscinda Nolasquez (Cupeno)
Tuone Udaina (Dalmatieg)
Fidelia Fielding (Mohegan-Pequot)
Armand Lunel (Shuadit)
Marie Smith Jones (Eyac)
Asgwrn y Gynnen (Ayapaneco/Nuumte Oote)
Big Bill Neidjie (Gaagudju)
Viktors Bertholds (Lifonaeg)
Shanawdithit (Beothuc)
Walter Sutherland (Norn)
William Rozario (Cochin indo-Portiwgaeg Creol)
Eleanor Karran (Manaweg)
Tommy Leece (Manaweg)
Harry Boyde (Manaweg)
John Kneen (Manaweg)
Sage Kinvig (Manaweg)
Ned Maddrell (Manaweg) -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Dolly Pentreath (Cernyweg)
Tef-ffic Esens (Ubych)
Ishi (Yana)
Roscinda Nolasquez (Cupeno)
Tuone Udaina (Dalmatieg)
Fidelia Fielding (Mohegan-Pequot)
Armand Lunel (Shuadit)
Marie Smith Jones (Eyac)
Asgwrn y Gynnen (Ayapaneco/Nuumte Oote)
Big Bill Neidjie (Gaagudju)
Viktors Bertholds (Lifonaeg)
Shanawdithit (Beothuc)
Walter Sutherland (Norn)
William Rozario (Cochin indo-Portiwgaeg Creol)
Eleanor Karran (Manaweg)
Tommy Leece (Manaweg)
Harry Boyde (Manaweg)
John Kneen (Manaweg)
Sage Kinvig (Manaweg)
Ned Maddrell (Manaweg) -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas