
Rhuddin
Ymddiddan y Corff a'r Enaid
Laura Karadog(Author)
Cyhoeddiadau Barddas (Publisher)
Published on 26. September 2021
Book
Hardback
96 pages
978-1-911584-51-3 (ISBN)
Description
An original and unique volume in the Welsh language presenting essays and brand new poems on themes relating to yoga and mindfulness. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Reviews / Votes
Geiriau o Lyfr Du Caerfyrddin sydd yn yr isdeitl, ac adlais o gerdd gan Waldo ac o lythyr Paul at y Rhufeinaid yn y prif deitl, ond rhwng y tudalennau, geiriau'r awdur, yn dyner, glir a gonest sydd yma, yn trafod pynciau sy'n gysylltiedig a yoga a meddylgarwch - disgyblaethau sy'n blodeuo ac yn cynyddol fagu cydnabyddiaeth a pharch yn ein cymdeithas, wrth i iechyd holistaidd hawlio ein sylw yng nghyd-destun effeithiau'r pandemig. Mae yma gyfeirio at synnwyr greddfol nifer fawr ohonom, a "[b]od llawer o'r atebion yr ydym ni'n chwilio amdanynt i'w canfod y tu mewn i ni'n hunain, ac nid ar y tu allan".Noda'r awdur mai ceisio rhoi blas yw ei bwriad, "a hynny mewn geiriau sy'n gyfarwydd i ni fel Cymry sy'n siarad Cymraeg".
Ceir penodau ar themau gwreiddio, caredigrwydd, anadlu, egni, bodlonrwydd, ildio, myfyrio, a gorffwys. Mae patrwm i bob pennod: darlun lliw, pennill, trafodaeth, pennill, ac ymarferiad. Ar gyfer pob thema cyflwynir trafodaeth fer ar y pwnc gan gyfuno eglurhad gwyddonol ac athronyddol a phrofiadau a chyd-destun personol sy'n creu naws gartrefol, esmwyth a chroesawgar i'r darllenydd. Trysorau'r gyfrol hon yw'r nifer o gerddi cain gan feirdd cyfoes, a hefyd gerddi gan fawrion ein cenedl, Waldo Williams a Dic Jones.
I bob thema mae lliw gwahanol, caredig i'r llygad, o blith lliwiau'r ddaear, a darluniau gan Luned Aaron yn fynegiant gweledol trawiadol i'r pwnc dan sylw. Mae'r ymarferion yn addas i bawb, ac yn cyfuno technegau yoga a meddylgarwch megis 'ystum y mynydd', myfyrdod caredigrwydd cariadus, arafu'r anadl, dod o hyd i'r egni, diolchgarwch, hunanholi, sganio'r corff, yoga adferol a yoga nidra.
Os yw'r geiriau o iaith Sanskrit yn peri ychydig o benbleth, mae geirfa ddefnyddiol a diddorol yng nghefn y gyfrol yn egluro ystyr geiriau fel tadasana, sef "Enw'r iaith Sanskrit ar ystum a adwaenir fel 'Ystum y Mynydd' wrth ymarfer yoga. Mae'n gyfuniad o'r geiriau tada 'mynydd' ac asana 'sedd' neu 'ystum'."
Ar y dudalen flaen ac yn y llyfryddiaeth a'r rhestr darllen pellach yng nghefn y gyfrol cyfeirir at gyfieithiad Cymraeg 'Y Fendigaid Gan' gan yr Athro Cyril G. Williams o destun clasurol y Bhagavad Gita. A dyma osod y gyfrol hon mewn llinach brin o drysorau ym maes yoga a meddylgarwch yn y Gymraeg. Dyma wedd gynhenid Gymreig, flasus iawn, ar bwnc a gysylltir yn arferol a'r Dwyrain.
Bydd yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i holl ymarferwyr yoga a meddylgarwch, i athrawon ac arweinwyr yn y maes, ac i bob un sydd yn mwynhau ymddiddan ynghylch "ein hanfod, ein craidd a'n rhuddin". -- Mair Jones @ www.gwales.com
More details
Language
Other
Place of publication
Gwynedd
United Kingdom
Illustrations
15 o ddarluniadau lliw
Dimensions
Height: 180 mm
Width: 140 mm
ISBN-13
978-1-911584-51-3 (9781911584513)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification
Other editions
Additional editions
