Perfformio'r Genedl
Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards
Anwen Jones(Editor)
University of Wales Press
Published on 27. April 2017
Book
Paperback/Softback
240 pages
978-1-78683-034-0 (ISBN)
Description
Mae Perfformio'r Genedl yn gyfrol sy'n cloriannu a chydnabod cyfraniad Hywel Teifi Edwards i'r broses bwysig o ddiffinio anian ac athrylith perfformiadol cenedl y Cymry. Dyma ymgais arloesol i ddathlu cyfraniad Edwards i faes nas cloriannir yn benodol mewn un cyfraniad canolog ganddo, ond sydd yn brigo i'r wyneb drwyddi draw mewn ystod eang o'i weithiau unigol. Archwilir nifer o agweddau gwahanol ar waith y gellid ei uno o dan bennawd cyffredinol - sef astudiaeth o'r perfformiadol yng nghyd-destun twf cysyniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru, o'r ddeunawfed ganrif hyd at y presennol. Mae'r gyfrol yn canoli ar themau amrywiol yng ngwaith Edwards, megis Pasiant Cenedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiadau'r Orsedd, y drafodaeth o ddramau cynnar y mudiad drama, a'r dogfennu ar weithgaredd cwmniau drama amatur. Dadleuir bod modd cysylltu'r amryw themau yn ei waith a'u trafod yng nghyd-destun astudiaeth o'r anian perfformiadol yng nghyfansoddiad y Cymry.
Reviews / Votes
'Dyma gyfrol arloesol ac amheuthun sy'n cynnig cyfres o ymatebion ysgolheigaidd i waith Hywel Teifi Edwards, ac sy'n ehangu'r drafodaeth ar astudiaethau theatr a pherfformiad yn Gymraeg. Tra bod gwaith Edwards yn wybyddus iawn ym maes y Gymraeg, dyma'r llyfr cyflawn cyntaf i hawlio pwysigrwydd ac arwyddocad i'w waith i astudiaethau theatr a pherfformiad yn benodol.' - Dr Lisa Lewis, Prifysgol De CymruMore details
Language
Other
Place of publication
Wales
United Kingdom
Illustrations
Not illustrated
Dimensions
Height: 216 mm
Width: 138 mm
ISBN-13
978-1-78683-034-0 (9781786830340)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification
Other editions
Additional editions

E-Book
05/2017
1st Edition
GPC Books
€9.49
Available for download

E-Book
05/2017
1st Edition
GPC Books
€9.99
Available for download
Person
Mae Anwen Jones yn bennaeth ar Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, ac yn Ddarllenydd mewn Astudiaethau Theatr.
Content
Rhagymadrodd Golygydd y Gyfrol - Anwen Jones
Ymlaen mae Canaan: Dyfodoldeb yn Hanesyddiaeth y Theatr Gymraeg - Gareth Evans
Codi'r Llen, Ffotograffiaeth a Hanesyddiaeth 'Annheyrngar' Hywel Teifi Edwards - Roger Owen
Cadwraeth a Chynnydd yn y Mudiad Drama Cymraeg - Ioan Williams
Chwarae Rhan yng nghynhyrchiad Nghymru Fydd - M. Wynn Thomas
Perfformio cenedl y dychymyg: Iolo Morganwg a dechreuadau Gorsedd y Beirdd - Cathryn Charnell-White
Yr Eisteddfod yng ngweithiau Hywel Teifi Edwards: parth ymreolaethol dros dro? - Rowan O'Neill
Celfyddydau perfformiadol Cymru: Hanes newydd, Hanesyddiaeth newydd: Hywel Teifi Edwards a Phasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. - Anwen Jones
Mynegai