
Senedd
Trevor Fishlock(Author)
Bird Eye Books (Publisher)
Published on 6. April 2023
Book
Hardback
160 pages
978-1-913134-85-3 (ISBN)
Description
Now available in this new compact edition, Senedd documents the rise of Cardiff as a city and place of government through to the concepts, challenges and final achievements of the Senedd building itself, superbly photographed by Andrew Molyneux. English text. Welsh edition also available: 9781802584165 -- Cyngor Llyfrau Cymru
Reviews / Votes
Yn rhinwedd fy swydd gydag Uned Wleidyddol BBC Cymru, rwy'n gyfarwydd iawn ag adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Ond fel arfer rwy'n rhy brysur yn rhuthro o un lle i'r llall i sylwi'n fanwl arno. Mae'r gyfrol swmpus hon yn gronicl llawn o harddwch yr adeilad, ac yn sicr, mae hi'n fwy na chyfrol bwrdd coffi sy'n llawn o luniau a delweddau.Cawn flas ar hanes gwleidyddol Cymru, hanes Bae Caerdydd a'r brifddinas, a gwybodaeth bensaerniol am gynllun yr adeilad a'r nodweddion crefftus sydd o'i amgylch. Mae yma hefyd gyfweliadau gyda'r penseiri, sef yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour, sy'n rhoi hanes yr ysbrydoliaeth y tu ol i gysyniad y cynllun. Ac mae'r cyfweliad gyda Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn rhoi syniad da i ni sut mae'r adeilad yn gweithio o ddydd i ddydd, ynghyd a'i arwyddocad i'r genedl.
Un o gryfderau amlwg y gyfrol yw ffotograffau Andrew Molyneux, yn dogfennu'r adeilad wrth iddo gael ei godi, yn dangos safle'r Senedd ac yn manylu hefyd ar y nodweddion pensaerniol clyfar a deniadol sy'n gwneud yr adeilad yn un mor eiconig. Cawn hefyd gip tu ol i'r llenni, gweld rhannau nad ydynt ar agor i'r cyhoedd, megis stafell y boileri, swyddfa'r Llywydd, a'r systemau cyfrifiadurol sydd gan yr Aelodau yn y Siambr. Cawn hefyd esboniad o'r dull pleidleisio electronig a'r system negeseuo.
Mae'r adeilad yn un dramatig, gyda golygfa wych dros y bae i gyfeiriad Penarth. Ei ganolbwynt yw'r twndis mawr uwchben y Siambr, ac esbonnir sut y cafodd coed cedrwydd o Ganada eu crymu o amgylch y twndis ac ar hyd y to. Mae'n amhosib peidio a chael gwefr o weld sut mae'r pren a'r llechi o chwarel Cwt-y-bugail, Blaenau Ffestiniog, wedi cael eu defnyddio i greu naws fodern ac awdurdodol. Mae'r defnydd celfydd o'r gwydr hefyd yn galluogi ymwelwyr i weld i mewn i'r Siambr a chael cip ar yr holl drafod islaw, gan greu'r teimlad agored oedd wrth galon gweledigaeth y penseiri.
I unrhyw un sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth, hanes a phensaerniaeth, mae'r gyfrol hon yn un hynod ddiddorol. Mae'r dyluniad glan a slic yn pwysleisio techneg y ffotograffydd wrth ddangos harddwch y strwythur a'r deunyddiau sy'n rhan o'r adeilad. Cawn hefyd flas ar hanes y safle, gan roi'r Senedd yn ei chyd-destun hanesyddol ar safle'r dociau ond sydd bellach yn bwerdy i ddemocratiaeth Cymru. -- Gwyddno Dafydd @ www.gwales.com
More details
Edition
New edition
Language
English
Place of publication
United Kingdom
Publishing group
Graffeg Limited
Edition type
New edition
Product notice
sewn/stitched
Cloth over boards
Dimensions
Height: 156 mm
Width: 157 mm
Thickness: 17 mm
Weight
350 gr
ISBN-13
978-1-913134-85-3 (9781913134853)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification
Persons
Trevor Fishlock is a writer and broadcaster who was staff correspondent of The Times in India, and New York and Moscow bureau chief for The Daily Telegraph. He has worked on assignment in more than sixty countries and has published widely. -- Publisher: Graffeg