
Cadwyni Rhyddid
Grahame Davies(Author)
Cyhoeddiadau Barddas (Publisher)
Published on 1. January 2002
Book
Paperback/Softback
76 pages
978-1-900437-43-1 (ISBN)
Description
The second volume of the provocative poetry of Grahame Davies comprising over 30 diverse poems reflecting the hypocrisy and restrictions of city life among the Cardiff Welsh. First publsihed in June 2001. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Reviews / Votes
Braf ydy cael cyfrol sy'n llonni calon, yn cyffroi'r dychymyg ac yn bwydo enaid. Llais personol ffres a chynhyrfus.Magwyd yr awdur yng Nghoed-poeth a dod dan ddylanwad y bardd Bryan Martin Davies yng Ngholeg Ial. Wedyn i'r Brifysgol yng Nghaergrawnt a graddio mewn Saesneg cyn cwblhau ei ddoethuriaeth dan adain yr Adran Gymraeg yn y Brifysgol yng Nghaerdydd. Yna ymuno a'r BBC yno.
Bu'n agos iawn at gipio'r goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol fwy nag unwaith, ac wrth gwt un o blant Caerdydd, Emyr Lewis, ym Mro Ogwr, 1998. Cafodd y bywyd dinesig ddylanwad dwfn ar y ddau.
Yn y gyfrol hon fe geir digon o amrywiaeth ffurf a chynnwys ? englyn, sonedau, ffurfiau telynegol a dogfennol, ymsonau dwys a dychanol. Gobeithio y caiff ei ddychymyg a'i ddireidi gyfle o fewn y BBC ac S4C. Mae mawr angen amdanynt.
Un o'i themau yw amlochredd y bywyd dinesig, yn fwyaf penodol y byd cyfryngol:
Mae'n byd ni'n garchar o gamerau
yn ddrysfa o ddelweddau,
gweld eraill drwyddynt,
gweld ein hunain ynddynt,
maen nhw'n fwy real na realaeth.
Byd y BMW a'r fwydlen foethus, byd sydd wedi cyfnewid gwerth am bris:
Rwyt ti'n gwario mwy ar steil dy wallt na phensiwn mis dy nain,/ Os clywi son am Calvin, 'rwyt ti'n meddwl am Calvin-Klein.
Fe dreuliodd gyfnod yn y Rhondda cyn dod i'r ddinas:
mewn stad rhwng nef a daear ar y bryn
y llwch ar frest, neu'r haint mewn waliau llaith,
canser mewn paced, nodwydd yn y graith.
A chyfnod wedyn yng ngogledd Iwerddon, a Branwen yn gyfeiliant:
cryfach yw'r tristwch sy'n torri calon
na'r grym sy'n hollti'r atom.
Wedyn, Rwmania a'r darlun hunllefus hwnnw o gartre i blant a nam ar eu meddwl:
y goedwig o freichiau gwag
yn ceisio coflaid
y lleisiau llwglyd yn crio
'Dadi! Dadi!'
Yn ol yn y brifddinas mae nodau gobaith a gorfoledd ? gweld hadau y Gymru rydd.
A'r anturiaeth arall honno yn 'Tywyllwch' sy'n tanlinellu hiraeth y bardd am wirionedd sy'n ddyfnach hyd yn oed na iaith y gwleidydd neu'r bardd:
Ar ben y staer, gyda'r nos
y petruso, yr aros,
y llais bach wrth gyrchu'r gwyll.
'Tyrd gyda mi, mae'n dywyll.?
Yn unig dringaf yn uwch
gan estyn llaw i'r duwch
gan ddisgwyl ar y trothwy,
I law gynnes ei chymryd hi.
Clamp o gyfrol! -- Gwyn Erfyl @ www.gwales.com
More details
Language
Other
Place of publication
Gwynedd
United Kingdom
Dimensions
Height: 138 mm
Width: 215 mm
ISBN-13
978-1-900437-43-1 (9781900437431)
Copyright in bibliographic data and cover images is held by Nielsen Book Services Limited or by the publishers or by their respective licensors: all rights reserved.
Schweitzer Classification